Rhieni
Mae ein perthynas â’r myfyrwyr yn eich cynnwys chi, fel rhiant neu warcheidwad, a byddwn yn cyfathrebu gyda chi’n rheolaidd mewn newyddlenni, adroddiadau a nosweithiau ymgynghori i roi gwybod i chi am gynnydd eich mab neu ferch. Bydd hyn yn cynnwys adborth am eu hymddygiad, eu gwaith cartref ac asesiadau arholiad a
sylwadau gan eu tiwtor personol.
Yn ogystal â chael adroddiad ysgrifenedig, caiff rhieni’r cyfle i fynychu Noson Rieni lle cânt gyfarfod â thiwtor personol eu mab neu ferch.
Mae croeso i chi hefyd i gysylltu â’u tiwtor personol ar unrhyw adeg.
Ein Disgwyliadau
Mae gan Iâl ddisgwyliadau uchel o’i holl fyfyrwyr, gan gynnwys presenoldeb a phrydlondeb da er
mwyn iddynt gael y cyfle i gyrraedd eu llawn botensial.
Rhan bwysig o’r ymddygiad disgybledig a rhesymol a ddisgwyliwn gan holl aelodau’r Coleg yw presenoldeb a phrydlondeb. Mae gennym broses ddisgyblu sydd wedi ei lunio i sicrhau bod amgylchedd y Coleg yn gyfeillgar, diogel a gwaraidd ac yn canolbwyntio ar lwyddiant ac nid ydym yn goddef bwlio ac aflonyddu.
Eich helpu chi i helpu eich mab neu ferch
Gall dewis y cwrs a’r llwybr gyrfaol cywir fod yn ddyrus iawn, ond rydym yn ceisio helpu myfyrwyr i wneud dewis gwybodus.
Am ragor o wybodaeth edrychwch ar ein newyddlen sy’n benodol i rieni neu cysylltwch â’r Coleg.
“Does gennyf ddim byd ond canmoliaeth i’r Coleg ac rwyf wedi bod yn ei argymell i’m holl ffrindiau fel y lle i anfon eu plant.” Sharon Sheady, Rhiant
“Datblyga’r dysgwyr lefel uchel o hunanhyder personol a phroffesiynol yn ystod eu cyfnod yn y coleg” Estyn 2009
Cadw mewn cysylltiad
Rho wybod i ni beth wyt ti’n ei wneud a chadw mewn cysylltiad â’r hyn yr ydym ni’n ei wneud.