Myfyrwyr Rhyngwladol
Croesawa Goleg Iâl ei fyfyrwyr rhyngwladol yn gynnes iawn, gan gynnig dewis o gyrsiau er mwyn dilyniant i brifysgol neu waith mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol.
Rydym yn goleg sefydledig yn y DU sydd wedi bod yn arbenigo mewn Addysg Bellach am dros 39 mlynedd. Rydym yn falch iawn o’r canlyniadau rhagorol a gaiff eu hennill gan ein myfyrwyr yn ogystal â’r amgylchedd dysgu o’r radd flaenaf sydd gennym a’r cymorth a roddwn i’n myfyrwyr.
Mae digonedd o gyrsiau i ddewis ohonynt a chewch fanteisio ar brofiad Prydeinig hollgynhwysol pan fyddwch yn astudio yma, yn amrywio o aros gyda theulu o’r DU i archwilio golygfeydd a mannau o ddiddordeb yn y DU. Bydd yr holl hyn yn hybu eich gwybodaeth am iaith a diwylliant y DU ac yn eich helpu i berffeithio eich Saesneg llafar.
Yn ogystal â darparu ar gyfer unigolion, gyda llawer ohonynt yn symud ymlaen i astudio mewn Prifysgolion neu Golegau Addysg Uwch, mae Iâl hefyd yn cynnig nifer o ddewisiadau i grwpiau o fyfyrwyr o ysgolion sy’n aros gyda ni am gyfnodau byrrach i astudio a gwella eu Saesneg.
Edrychwch drwy ein tudalennau ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol i ddarganfod mwy am astudio yng Ngholeg Iâl.
Cadw mewn cysylltiad
Rho wybod i ni beth wyt ti’n ei wneud a chadw mewn cysylltiad â’r hyn yr ydym ni’n ei wneud.