Cyflogwyr
Hyfforddiant Iâl
Amdanom ni
Hyfforddiant Iâl yw adran fasnachol Coleg Iâl, Wrecsam.
Mae Hyfforddiant Iâl yn ymroddedig i ddarparu atebion hyfforddi cost-effeithiol o’r safon uchaf a fydd yn arwain at welliannau perfformiad di-oed o fewn eich sefydliad. Mae tîm profiadol a galluog iawn ar gael i gyflwyno hyfforddiant, ymgynghoriad technegol a gwasanaethau cymorth i fusnesau, oll wedi eu teilwra’n ofalus i ddiwallu gofynion presennol eich sefydliad.
Mae hyblygrwydd cyflwyno yn uchel iawn ar ein hagenda! Gellir addasu’r holl wasanaethau i fodloni anghenion penodol eich busnes a gellir eu cyflwyno mewn ffurf sy’n addas ar gyfer eich busnes – dydd neu fin nos, dwys neu fodiwlaidd, yn ystod yr wythnos neu ar benwythnosau, ar y safle neu’n fewnol.
Mae mwy na 4,000 o unigolion, 700 o fusnesau lleol a chenedlaethol wedi cyfranogi o’n rhaglenni hyfforddi ers 1998.
Prentisiaethau
FfCCh/CGCau
Hyfforddiant
Hyfforddeiaeth/Camau at Waith
Dod o Hyd i Ni
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Hyfforddiant Iâl ar (01978) 316441.
Hyfforddiant Iâl, Ffordd Parc y Gelli, Wrecsam, LL12 7AB
Cadw mewn cysylltiad
Rho wybod i ni beth wyt ti’n ei wneud a chadw mewn cysylltiad â’r hyn yr ydym ni’n ei wneud.