Dysgwyr sy’n Oedolion
Croeso i Ddysgu Oedolion ac yn y Gymuned yng Ngholeg Iâl. Mae gennym gymaint o syniadau i ti eu harchwilio a gall ein cyrsiau fod yn llwybr delfrydol i yrfa newydd neu i ddysgu sgil newydd.
Mae dewis ragorol o gyrsiau dysgu byr yn y gymuned yn ystod y dydd a min nos mewn lleoliadau ledled yr ardal leol, neu efallai dy fod yn chwilio am gwrs gradd neu gwrs datblygu proffesiynol i roi hwb i dy yrfa. Cei weld yr holl gyrsiau hyn, gan gynnwys dewisiadau i’r rheiny sy’n dymuno astudio yn llawn amser, drwy ddefnyddio ein chwiliwr cyrsiau isod.
Efallai hefyd bod gennyt ddiddordeb mewn Cymorth i Fyfyrwyr Rhan-amser, cymorth ariannol, ein meithrinfa ddydd i’r rheiny â phlant ifanc ac sy’n dymuno astudio.
Cadw mewn cysylltiad
Rho wybod i ni beth wyt ti’n ei wneud a chadw mewn cysylltiad â’r hyn yr ydym ni’n ei wneud.