14-19
Mae Coleg Iâl yn arbenigo mewn addysg i ymadawyr ysgol gydag amrywiaeth eang o gyrsiau ar gael ar Safon Uwch traddodiadol ynghyd â diplomâu a thystysgrifau galwedigaethol ar bob lefel. Rydym hefyd yn darparu ar gyfer y rheiny sydd eisiau dysgu a gweithio, gydag amrywiaeth o brentisiaethau a hyfforddeiaethau.
Hefyd, gall y rheiny sy’n dal yn yr ysgol ddilyn cymwysterau galwedigaethol yng Ngholeg Iâl – gofyn yn yr ysgol am ragor o wybodaeth, neu edrych ar ein canllaw i astudio yn 14-16 oed.
Byddi wrth dy fodd yn fyfyriwr yn Iâl!
• Yr addysgu a’r profiad dysgu gorau
• Tiwtoriaid personol ac athrawon sydd wir yn gofalu amdanat
• Amgylchedd cyfeillgar, gofalgar a diogel gyda chyfleusterau ac adnoddau dysgu o’r radd flaenaf
• Ystod eang o weithgareddau cyfoethogi ym amrywio o chwaraeon, cerdd a drama i ymweliadau, dadleuon a chlybiau
• Cymorth ychwanegol i’r rheiny sydd angen cymorth gyda’u hastudiaethau.
Efallai bod gennyt ddiddordeb mewn: Cymorth i Fyfyrwyr Llawn Amser neu Dy Fywyd Cymdeithasol a Chyfoethogi neu beth am wylio ein ffilm yma.
Cadw mewn cysylltiad
Rho wybod i ni beth wyt ti’n ei wneud a chadw mewn cysylltiad â’r hyn yr ydym ni’n ei wneud.