Yale College

Myfyrwyr Coleg Iâl yn Cynorthwyo Tu Ôl i’r Llenni mewn Sioe Ffasiynau Leol

Cafodd myfyrwyr Technoleg Ewinedd Lefel 3 Coleg Iâl brofiad proffesiynol wrth weithio fel colurwyr a thechnegwyr ewinedd y tu ôl i’r llenni gyda chyn-ddysgwr o Iâl sydd wedi datblygu ei brand ffasiwn ei hun.

Cefnogodd Sarah Euden, Beth Klingenberg, Katie Lowe, Rebecca Smallwood a Sarah Williams Nicola Morrison pan arddangosodd ei chynlluniau ffasiwn yn lleol. Lluniwyd y brand ffasiwn Schutzmann gan fyfyriwr a raddiodd o adran ffasiwn Iâl, Nicola Morrison, a ddaeth at adran harddwch Iâl am gymorth gyda cholur i’r sioe ffasiynau.

Cynlluniodd Nicola bedwar casgliad gwahanol; parod i wisgo, dillad i glybiau, dillad min nos ac uchel ffasiwn, gyda gwisgoedd amrywiol yn y casgliadau. Cynhaliwyd y sioe yng Ngwesty’r Grosvenor Pulford, gyda phobl leol yno’n awyddus iawn i gael cipolwg ar y doniau a ysbrydolwyd gan dai ffasiwn arbennig Prydain. Gan gofleidio’r cyfarwyddyd cynllunio i greu dau olwg colur hollol wahanol ac un golwg ewinedd i gyd-fynd â phob casgliad gan adlewyrchu tueddiadau “GH12”, cefnogwyd myfyrwyr Coleg Iâl gan Samantha Raybould, darlithydd mewn Technoleg Ewinedd.

Rhoddodd y digwyddiad gyfle gwych i ddysgwyr Iâl i weithio mewn sefyllfa go iawn. “Roeddwn wrth fy modd â’r holl fwrlwm.” “Roedd yn brofiad da,” meddai’r myfyrwyr Sarah Williams a Katie Lowe yn ystod y dathliadau wedi’r sioe.

Salon Gwallt a Harddwch Coleg Iâl, Salon Iâl, yw Canolfan Rhagoriaeth Wella cyntaf Cymru. Gellir prynu Schutzmann ar-lein ar http://www.schutzmann.co.uk


sylwadau

Does dim sylwadau ar y swydd hon hyd yn hyn, fydd y cyntaf!

ad sylw

Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am yr erthygl hon:

Am y swydd hon

  • categoreiddio yn:
  • Does dim sylwadau ar y swydd hon hyd yn hyn, fydd y cyntaf!

Troedyn safle

Cofrestru am Gylchlythyr

Gallwch danysgrifio i gylchlythyr Coleg Iâl yma.

Cyfeiriad

Cyswllt

Coleg Iâl
Ffordd Parc y Gelli
Wrecsam, LL12 7AB

T: +44 (0)1978 311 794
E:

Cadw mewn cysylltiad

Rho wybod i ni beth wyt ti’n ei wneud a chadw mewn cysylltiad â’r hyn yr ydym ni’n ei wneud.

  • LinkedIn
  • Twitter
  • Facebook
  • Flickr

Lluniau newydd

Site by View Creative Agency