Cyflwyniad ar Gemau Wii yng Ngholeg Iâl
Cafodd dysgwyr Technoleg Gwybodaeth Coleg Iâl gyfle rhyngweithiol gyda’r arbenigwr Beverley Bright a rannodd ei phrofiadau yn y “diwydiant gemau” â nhw’n ddiweddar.
Ar hyn o bryd, mae Beverley Bright, Ymgynghorydd Celf ar ei liwt ei hun, yn gweithio gyda “Brain in Jar” ar gyfer gêm Wii, a swynwyd y myfyrwyr â’i gwybodaeth helaeth a’i dealltwriaeth o’r diwydiant gemau sy’n prysur newid.
“Byddwch yn frwdfrydig ac fe lwyddwch,” oedd cyngor Beverley, a oedd yn gweithio i Bizarre Creations hyd yn ddiweddar ac sydd wedi ymwneud â gemau fel Blur, PGR4, Indycar Series, F1 2000 a llawer mwy.
Gan drafod cyfleoedd, swyddogaethau gwaith a chymwysterau sgiliau dymunol i gamu i’r diwydiant cyffrous, eglurodd Beverley sut mae gemau wedi datblygu i agor llwybrau gyrfa.
“Mae cysylltu astudio â diwydiant yn hanfodol i fyfyrwyr,” meddai Karina Pitoors, Darlithydd mewn Cyfrifiaduro a Thechnoleg Gwybodaeth yng Ngholeg Iâl. “Rhoddodd ymweliad Beverley lawer o gymorth iddyn nhw ar gyfer eu llwybr gyrfa.”
sylwadau
Does dim sylwadau ar y swydd hon hyd yn hyn, fydd y cyntaf!
Cadw mewn cysylltiad
Rho wybod i ni beth wyt ti’n ei wneud a chadw mewn cysylltiad â’r hyn yr ydym ni’n ei wneud.