Gwobrwyo Adborth Myfyrwyr yng Ngholeg Iâl
Derbyniodd myfyrwyr Coleg Iâl werthfawrogiad y Pennaeth Dhesi am rannu eu barn ar berfformiad y Coleg.
Mae cyfraniad myfyrwyr yn rhan o gynllunio strategol Coleg Iâl ac anogir adborth rheolaidd gan y dysgwyr i sicrhau bod y Coleg yn cyflawni ei ddisgwyliadau’n effeithiol. Mae monitro canlyniadau’r arolwg ymchwil yn hanfodol a chaiff ei feincnodi gydag ymatebion o golegau ledled y DU sydd hefyd yn rhan o’r astudiaeth barhaus.
“Amlygodd yr ymchwil bod y myfyrwyr wedi cael y cwrs cywir ac wedi eu croesawu gan Goleg Iâl, a’u bod yn teimlo’n ddiogel yma,” meddai Dhesi. “Mae adborth agored yn werthfawr ac mae’n ein cynorthwyo i barhau i wella”.
Roedd talebau “Love2Shop” gwerth £25 yn sbardun gwerth chweil i’r enillwyr lwcus a ymunodd yn yr arolwg. Meincnodwyd canlyniadau Coleg Iâl yn ffafriol iawn gyda dros ddeugain o sefydliadau addysgol eraill a oedd yn rhan o’r arolwg.
sylwadau
Does dim sylwadau ar y swydd hon hyd yn hyn, fydd y cyntaf!
Cadw mewn cysylltiad
Rho wybod i ni beth wyt ti’n ei wneud a chadw mewn cysylltiad â’r hyn yr ydym ni’n ei wneud.