Mae Gen Ti Ddewis
Beth am ddilyn cwrs yn Iâl trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog?
Byddai’n gwella dy gyfleoedd gwaith gan fod y gallu i siarad ac ysgrifennu’n Gymraeg yn cael ei hystyried yn sgil gwerthfawr yn y gweithle, yn union fel sgiliau cyfrifiadurol ac ariannol.
Mae gennym ystod o gyrsiau y gellir eu dilyn trwy gyfrwng y Gymraeg yn llwyr:
- Diploma Gyfrannol BTEC Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth*
- Diploma Gyfrannol BTEC Lefel 3 yn y Gwasanaethau Cyhoeddus*
- Diploma Gyfrannol BTEC Lefel 3 mewn Arlwyo*
- Diploma Cache Lefel 3 mewn Gofal Plant (mae hwn yn gwrs llawn amser)
- Sgiliau Cyflogadwyedd Deloitte Lefel 2
- Bagloriaeth Cymru
*(Mae tua 4 ½ o oriau dysgu i’r rhain a gellir eu cynnig yn rhan o raglen lawn amser, naill ai ochr yn ochr â chyrsiau Safon Uwch neu yn rhan o gwrs galwedigaethol).
Help Cymraeg
Mae dewis gan y myfyrwyr i astudio rhan o unrhyw gwrs arall yn y Coleg trwy gyfrwng y Gymraeg, er enghraifft, mae rhai myfyrwyr yn dewis sefyll eu harholiadau yn Gymraeg, a gallant gael help gyda’r Gymraeg trwy gydol eu cyfnod yn y Coleg gyda Help Cymraeg!
- Oes angen help arnat gyda geirfa, er enghraifft termau arbennig, yn dy waith Coleg?
- A fyddet ti’n hoffi gwneud rhywfaint o dy waith yn Gymraeg?
- A fyddet ti’n hoffi siarad Cymraeg gyda myfyrwyr eraill?
Am ragor o wybodaeth, cysyllta â Derbyniadau neu anfona ebost at: helpcymraeg@yale-wrexham.ac.uk
Cyrsiau Cymraeg i Oedolion
Mae Coleg Iâl yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Cymraeg i Oedolion i helpu unigolion sy’n dymuno gwella eu sgiliau Cymraeg er mwyn eu dyheadau unigol neu i ddiwallu eu hanghenion gyrfaol. Mae’r rhain yn cynnwys cyrsiau Cymraeg sylfaenol a lefel mynediad hyd at gyrsiau ar lefelau uwch a gallwn eich helpu i weld pa lefel sy’n iawn ar eich cyfer chi.
I gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau Cymraeg i Oedolion, ewch at yr adran ‘ieithoedd’ yn ein cyrsiau rhan-amser. Gallwch fynd at y rhain drwy edrych ar ein chwiliwr cyrsiau .
Cadw mewn cysylltiad
Rho wybod i ni beth wyt ti’n ei wneud a chadw mewn cysylltiad â’r hyn yr ydym ni’n ei wneud.