Bwyty Rendezvous
Croeso i Rendezvous
“Arbenigwyr mewn bwyd da”
Yn Rendezvous, ymfalchïwn yn ein hawyrgylch gynnes a chroesawgar ac ymdrechwn i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau profiad bwyta gwirioneddol bleserus a chofiadwy i’n gwesteion.
Paratoir ein bwyd yn gariadus gyda’r cynhwysion mwyaf ffres a gweinir ein ryseitiau nodweddiadol mewn amgylchedd ymlaciol a chyfoes.
Oriau agor Gweinir Coffi boreol o 10.15 -11.00.am
Gweinir Cinio bob dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gellir neilltuo lle o 12.00 – 1.30pm
Ar agor am Swper ar nos Iau o 6.15pm, neu ar gais.
Gellir cael bwydlenni arbennig i archebion corfforaethol neu am ddigwyddiadau arbennig
Archebion
Gellir neilltuo lle am ginio neu swper dros y ffôn: 01978 316457
Parcio
Gall ymwelwyr barcio ym maes parcio’r Llyfrgell neu’r Pwll Nofio sydd nepell o’r bwyty.
Hefyd, mae rhai lleoedd parcio am ddim o flaen bwyty Rendezvous i bobl anabl os oes bathodyn ganddynt.
Cadw mewn cysylltiad
Rho wybod i ni beth wyt ti’n ei wneud a chadw mewn cysylltiad â’r hyn yr ydym ni’n ei wneud.