Yale College

Canolfannau Adnoddau Dysgu

Canolfannau Adnoddau Dysgu

Canolfannau diweddaraf lle gall myfyrwyr ddefnyddio

  • cyfrifiaduron
  • y rhyngrwyd
  • cyfleusterau’r llyfrgell – llyfrau, cylchgronau a chyfnodolion
  • meddalwedd aml-gyfrwng – fideo, casetiau sain a CD ROM
  • cyfleusterau ar gyfer astudio mewn tawelwch
  • gwybodaeth am a chymorth ymarferol gyda Sgiliau Allweddol

Oriau agor:

Ffordd Parc y Gelli
Dydd Llun a dydd Mawrth 8.30am – 8.00pm,
Dydd Mercher a dydd Iau 8.30am – 5.00pm
Dydd Gwener 8.30am – 4.30pm
(5pm yn ystod gwyliau’r coleg)

Ffordd y Bers
Dydd Llun a dydd Mawrth 8.30am – 5.00pm
Dydd Mercher a dydd Iau 8.30am – 8.00pm
Dydd Gwener 8.30am – 4.30pm
(5pm yn ystod gwyliau’r coleg)

Cewch wybodaeth am yr adnoddau sydd gennym drwy ddefnyddio’r catalog ar-lein

Beth yw CAD?

Ystod eang o adnoddau i’ch cynorthwyo ar eich cwrs gan gynnwys:

  • Cyfrifiaduron gyda mynediad i’r rhyngrwyd wedi eu cysylltu ag argraffwyr lliw a du a gwyn
  • Llyfrau
  • Papurau newydd, cylchgronau a chyfnodolion, mewn copi caled ac ar-lein
  • Teledu ar gyfer fideos a DVDs
  • Fideos
  • DVDs
  • Casetiau sain
  • Setiau o sleidiau

Mae stoc llyfrau’r GAD yn cynnwys dros 35,000 eitem ac mae dros 100 o gyfnodolion gwahanol i’w darllen ar wahanol bynciau. Mae’r rhan fwyaf o’r llyfrau ar gael i’w benthyca a cheir benthyciad byr ar y teitlau mwyaf poblogaidd.

Er mwyn diweddaru’r casgliad, cyflwynir dros fil o adnoddau newydd i’r GAD bob blwyddyn ac mae mynediaid i’r wybodaeth gyfredol a’r adnoddau electronig ar gael drwy gyfrifiaduron CAD.

Beth arall gall y GAD ei gynnig i mi?

  • Staff proffesiynol sydd bob amser yn falch o helpu.
  • Mannau astudio ar gyfer gweithio mewn grwpiau ac astudio tawel

Gwasanaethau i’ch cynorthwyo wrth astudio

  • CentreBooks – Medrwn archebu unrhyw lyfr rydych ei angen – mae gostyngiad o 10% ar bob un
  • Gwasanaeth llyfrau ail law – medrwch brynu a gwerthu llyfrau ail law
  • Llungopiwyr du a gwyn sy’n gweithio â cherdyn neu ddarnau arian a llungopïo lliw

GaLW – Gateway to Libraries in Wrexham

GaLW – sef rhwydwaith o’r llyfrgelloedd cyhoeddus, addysg bellach ac uwch, y gwasanaeth archifau ac astudiaethau lleol, Gwasanaeth Llyfrgelloedd Ysgolion a Chymdeithas y Sefydliadau Gwirfoddol yn Wrecsam (AVOW). Trwy bartneriaeth GaLW, gall myfyrwyr a staff Coleg Iâl ddefnyddio’r llyfrgelloedd eraill o fewn cynllun GaLW i fenthyca deunyddiau penodol ac er mwyn cyfeirio.

Mae’r llyfrgelloedd eraill yn y cynllun yn cynnwys y canlynol:

  • Llyfrgell Prifysgol Glyndŵr
  • Llyfrgell Wrecsam, gan gynnwys pob cangen
  • Llyfrgell Ysgol Astudiaethau Iechyd Wrecsam

I ymuno, galwch heibio un o lyfrgelloedd GaLW a gofyn am ffurflen ymuno. Os ydych yn perthyn i lyfrgell arall yn Wrecsam ar hyn o bryd, ewch â’ch cerdyn adnabod a phrawf o’ch cyfeiriad.

Troedyn safle

Cofrestru am Gylchlythyr

Gallwch danysgrifio i gylchlythyr Coleg Iâl yma.

Cyfeiriad

Cyswllt

Coleg Iâl
Ffordd Parc y Gelli
Wrecsam, LL12 7AB

T: +44 (0)1978 311 794
E:

Cadw mewn cysylltiad

Rho wybod i ni beth wyt ti’n ei wneud a chadw mewn cysylltiad â’r hyn yr ydym ni’n ei wneud.

  • LinkedIn
  • Twitter
  • Facebook
  • Flickr

Lluniau newydd

Site by View Creative Agency