Canolfannau Menter y Celfyddydau Creadigol
Canolfan Thinc
Menter gan Goleg Iâl yw Thinc gyda’r nod o gefnogi a hyrwyddo menter yn sector y Diwydiannau Creadigol, yn ogystal â darparu adnodd i fyfyrwyr Iâl ac artistiaid a dylunwyr yn y gymuned ehangach. Mae ein prif gyfleusterau’n cynnwys torrwr laser ac argraffydd print mawr, gyda’r ddau ohonynt ar gael at ddefnydd y cyhoedd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Paul Flohr: pjf@yale-wrexham.ac.uk
Cwiltiau Thinc
Sefydlwyd Cwiltiau Thinc gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru. Gan ganolbwyntio ar grefftau traddodiadol Cymru a chynaliadwyedd, crëwyd Cwiltiau Thinc gyda’r ôl-troed carbon lleiaf posibl i gefnogi Ymgyrch Gwlân Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Charles.
Mae ein peiriant cwiltio hirfraich hefyd ar gael at ddefnydd y cyhoedd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Marcus Thomas: mzt@yale-wrexham.ac.uk
Canolfan Delweddu Digidol Thinc
Yn Dod yn Fuan!
Wrth barhau gydag ymrwymiad Iâl i ddatblygu’r sector Diwydiannau Creadigol newydd, rydym yn falch i gyhoeddi ein bod wedi cael cyllid ar gyfer stiwdio ffotograffig Hi-Glide gyda system saethu clwm ac ardal bywyd llonydd. Bydd y cyfleuster hwn hefyd ar gael i’r cyhoedd a busnesau bach sy’n ymddiddori mewn creu delweddau o’r ansawdd gorau mewn amgylchedd stiwdio.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Victoria Kinread: vlk@yale-wrexham.ac.uk
Cadw mewn cysylltiad
Rho wybod i ni beth wyt ti’n ei wneud a chadw mewn cysylltiad â’r hyn yr ydym ni’n ei wneud.