Digwyddiadau Chwefror, 2012
| << | Chwefror 2012 | >> | ||||
|---|---|---|---|---|---|---|
| S | M | T | W | T | F | S |
| 29 | 30 | 31 | 1 | 2 | 3 | 4 |
| 5 | 6 | 7 | 8 | 9 | 10 | 11 |
| 12 | 13 | 14 | 15 | 16 | 17 | 18 |
| 19 | 20 | 21 | 22 | 23 | 24 | 25 |
| 26 | 27 | 28 | 29 | 1 | 2 | 3 |
| Digwyddiad | Dyddiad | Amser | Lleoliad |
|---|---|---|---|
| Wythnos Prentisiaethau Cymru 6 - 10 Chwefror | 06/02/12 - 10/02/12 | 08:30 - 17:00 | |
| 07/02/12 - 07/02/12 | 17:00 - 19:30 | ||
| Noson Dewisiadau Peirianneg ac Adeiladu Blwyddyn 9 yng Ngholeg Iâl | 09/02/12 - 09/02/12 | 17:00 - 19:30 | |
| Canolfan Adnoddau Dysgu Coleg Iâl yn croesawu arddangosfa genedlaethol | 10/02/12 - 29/02/12 | 09:27 - 09:27 | |
| Gwyl Cydraddoldeb ac Amrywiaeth | 29/02/12 - 29/02/12 | 09:30 - 11:34 |
Show: All, Taster Event, Misc, enrolment day, freshers fair, open day,
Canolfan Adnoddau Dysgu Coleg Iâl yn croesawu arddangosfa genedlaethol
Categori:
Hoffech chi weld iwcalili a wnaed o hen lyfr llyfrgell? Neu beth am edrych ar lyfrgelloedd Trwy Lygaid Dylan Thomas? Dyma eich cyfle i weld arddangosfa Mynegwch eich Hun yng Nghanolfan Adnoddau Dysgu Coleg Iâl, Wrecsam rhwng 1 a 29 Chwefror 2012.
Cystadleuaeth gelf genedlaethol i lyfrgelloedd oedd Mynegwch eich Hun a anogodd bobl o bob oed i ddangos eu doniau creadigol ar thema “Llyfrgelloedd”. Rhoddwyd rhyddid iddynt i ddewis unrhyw ddull gan gynnwys ysgrifennu creadigol, dawns, drama, cerdd, animeiddio, paentio, ffotograffiaeth, darlunio neu gerflunio. Dewiswyd yr enillwyr o amrywiaeth o gategorïau gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, sefydliadau academaidd, mudiadau cymunedol ac unigolion.
Dewiswyd y deunaw terfynol ynghyd â thri â chymeradwyaeth uchel o dros 1600 o ymgeision, a dywedodd yr actores a’r awdur Ruth Jones mewn seremoni wobrwyo yn y Senedd: “Mae’r creadigrwydd a’r dychymyg a welir ym mhob categori yn anhygoel; byddent yn siŵr o fy ysbrydoli i fynd i’r llyfrgell! Byddwn yn annog pawb i fynd i weld yr arddangosfa wych hon.”
Mae ymwelwyr â’r arddangosfa wedi bod yn awyddus i rannu eu barn –
“Arddangosfa greadigol iawn – yn enwedig y llyfrau lluniau, mwynheais y ffilmiau fideo!”
“Ffrwydrad o syniadau. Mae’r gwaith amryddawn ac ysgogol yn gyfareddol ac wedi ei ddatblygu’n dda.”
Gellir gweld yr holl ymgeision buddugol ynghyd â ffilmiau o’r buddugwyr yn cael eu gwobrau ar librarywales.org.
Am ragor o wybodaeth ar yr arddangosfa, cysylltwch â Joanne Stewart, Canolfan Adnoddau dysgu Coleg Iâl neu ewch at visit librarywales.org.
Manylion cyswllt: Joanne Stewart 01978 317302 (.(JavaScript must be enabled to view this email address))
Cadw mewn cysylltiad
Rho wybod i ni beth wyt ti’n ei wneud a chadw mewn cysylltiad â’r hyn yr ydym ni’n ei wneud.