Yale College

AS/A Level Fine Art

Gellir dilyn y cwrs UG (Uwch Gyfrannol) fel cymhwyster blwyddyn ar wahân, neu fel hanner cyntaf cwrs dwy flynedd Safon Uwch lawn (Uwch), mewn Celfyddyd Gain. Mae’r ddau gwrs yn ddwys, yn heriol ond gyda’r posibilrwydd o fod yn foddhaus a phleserus. Cyniga’r cyrsiau brofiad gwerthfawr i bobl â diddordeb mawr yn y pwnc ac sydd hefyd â dawn yn y maes.

Cyflwyniad

Gellir dilyn y cwrs UG (Uwch Gyfrannol) fel cymhwyster blwyddyn ar wahân, neu fel hanner cyntaf cwrs dwy flynedd Safon Uwch lawn (Uwch), mewn Celfyddyd Gain. Mae’r ddau gwrs yn ddwys, yn heriol ond gyda’r posibilrwydd o fod yn foddhaus a phleserus. Cyniga’r cyrsiau brofiad gwerthfawr i bobl â diddordeb mawr yn y pwnc ac sydd hefyd â dawn yn y maes.

Gofynion Mynediad

Gellir dilyn cyrsiau Safon UG ac Uwch mewn Celfyddyd Gain er ei fwyn ei hun neu gall arwain at hyfforddiant pellach a gyrfa’n ymwneud â’r pwnc. Mae hefyd yn ddilys i’r rheiny nad ydynt yn dymuno cael dyfodol yn y Celfyddydau o reidrwydd, ond sy’n bwriadu dilyn cwrs gradd mewn pwnc gwahanol. Gall astudio Celfyddyd Gain hefyd helpu wrth ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, sy’n ddefnyddiol mewn unrhyw yrfa neu waith.

Gallai gyrfaoedd gynnwys:- Peintiwr, gwneuthurwr printiau, curadur astudiaethau amgueddfa, ffotograffydd a dysgu.

Cynnwys y Cwrs

Yn ogystal â meini prawf cyffredinol y coleg ar gyfer UG, dylai ymgeiswyr gael gradd C neu uwch mewn TGAU Celf a Dylunio, neu gymhwyster cyfwerth i ddilyn y cwrs UG. I ymgeiswyr Uwch, mae’n ddymunol cael gradd C neu uwch ar Safon UG.

CYNNWYS Y CWRS

Cwrs mwy arbenigol lle bydd ymgeiswyr yn cyflwyno gwaith ymarferol a beirniadol/cyd-destunol mewn un maes neu ragor a allai gynnwys peintio, darlunio, amlgyfrwng, cerflunwaith, celf y tir, gosodiadau, gwaith printio, ffotograffiaeth er enghraifft. Mae 2 uned asesu i’r cwrs blwyddyn UG, Uned 1 - gwaith cwrs lle bydd myfyrwyr yn datblygu gwaith gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau, sgiliau a syniadau Celfyddyd Gain ac Uned 2 - aseiniad a gaiff ei gosod yn allanol (arholiad).

Mae astudio dylunwyr, artistiaid a chrefftwyr cyfoes a hanesyddol yn rhan bwysig o gyrsiau Safon UG a Safon Uwch, ac maent yn brif ffynhonnell ysbrydoliaeth i’r gwaith ymarferol yn y stiwdio. Daw profiad o astudio gwrthrychau yn uniongyrchol gydag ymweliadau ag orielau, amgueddfeydd a mannau o ddiddordeb. Efallai bydd cyfleoedd hefyd i ymuno mewn gweithdai a gaiff eu cynnal gan artistiaid sy’n arfer eu crefft.

Mae’n rhaid i fyfyrwyr Safon Uwch gwblhau Uned 3 - ymchwiliad Unigol ac Uned 4 - aseiniad a gaiff ei gosod yn allanol. Mae’r gwaith i gyd yn seiliedig ar Astudiaeth Bersonol, gan gynnwys ymchwiliad personol trylwyr a ysgrifennwyd ac a ddarluniwyd ar bwnc yn ymwneud â’u gwaith stiwdio.

Cyfleoedd gyrfa

AS and A2 Level Fine Art can be studied for its own sake or can lead to further training and a career related to the subject. It is also valid for those who may not wish to pursue a future in the Arts, but who intend to follow a university degree course in a different subject. The study of Fine Art can also help develop transferable skills, useful in any career or job.

Careers could include:-Painter, printmaker, museum studies curator, photographer, teacher

Asesu

Dyfernir y cymwysterau UG ac Uwch gan AQA a chant eu marcio’n fewnol gan y ganolfan a’u safoni’n allanol gan Fwrdd Arholi AQA. Mae’n ofynnol i fyfyrwyr gyflwyno gwaith cwrs i’w asesu ar ddiwedd Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2. Pennir y graddau terfynol gan farciau pwrpasol a ddyfernir i waith cwrs ac unedau arholi.

SGILIAU HANFODOL Darpara’r cwrs gyfleoedd i ddatblygu ac achredu Sgiliau Hanfodol mewn Gwella eich Dysgu a’ch Perfformiad eich Hun a Chyfathrebu ar Lefel 3.

Ffioedd Cwrs

Full-time students do not pay course or examination entry fees, except in some cases when there are examination re-sits.

Part-time students pay course fees, which are displayed in College publications or are obtainable from Admissions, and examination entry and / or registration fees.

This course information was deemed to be correct at the time of publication, though course modules and content are subject to change by the awarding body.

Troedyn safle

Cofrestru am Gylchlythyr

Gallwch danysgrifio i gylchlythyr Coleg Iâl yma.

Cyfeiriad

Cyswllt

Coleg Iâl
Ffordd Parc y Gelli
Wrecsam, LL12 7AB

T: +44 (0)1978 311 794
E:

Cadw mewn cysylltiad

Rho wybod i ni beth wyt ti’n ei wneud a chadw mewn cysylltiad â’r hyn yr ydym ni’n ei wneud.

  • LinkedIn
  • Twitter
  • Facebook
  • Flickr

Lluniau newydd

Site by View Creative Agency