Yale College

Y Coleg

Croeso i Goleg Iâl a’i gymuned gyfeillgar a bywiog yma yng nghanol Wrecsam.

Rydym yn agored o bob aelod o’r gymuned a cheisiwn helpu myfyrwyr o bob oed i lwyddo i fynd i waith neu’r brifysgol. Mae hyn yn cynnwys disgyblion o ysgolion lleol a gaiff eu blas cyntaf ar hyfforddiant galwedigaethol yn ogystal â‘r mwyafrif o bobl ôl-16 yn yr ardal sy’n mynychu i gyflawni eu hanghenion addysg bellach.

Mae Iâl hefyd yn brif ddarparwr hyfforddiant oedolion, cyrsiau addysg uwch a datblygu gweithlu i gyflogwyr i ddiwallu uchelgeisiau unigol a chefnogi anghenion presennol busnes a diwydiant.

Rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu sydd wrth wraidd popeth a wnawn ac mae’r canlyniadau, y cyfleusterau a’r cymorth a roddwn yn denu dros 12,000 o fyfyrwyr bob blwyddyn.

Gobeithio byddi’n mwynhau pori drwy’r safle hon ac edrychwn ymlaen at dy groesawu i’r Coleg.

Nod Coleg Iâl yw: "Darparu'r holl ddysgwyr ag addysg a hyfforddiant o'r ansawdd gorau, meithrin partneriaethau a chyfrannu at ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd Wrecsam a'r gymuned ehangach."

Troedyn safle

Cofrestru am Gylchlythyr

Gallwch danysgrifio i gylchlythyr Coleg Iâl yma.

Cyfeiriad

Cyswllt

Coleg Iâl
Ffordd Parc y Gelli
Wrecsam, LL12 7AB

T: +44 (0)1978 311 794
E:

Cadw mewn cysylltiad

Rho wybod i ni beth wyt ti’n ei wneud a chadw mewn cysylltiad â’r hyn yr ydym ni’n ei wneud.

  • LinkedIn
  • Twitter
  • Facebook
  • Flickr

Lluniau newydd

Site by View Creative Agency